Y BAND
Yn dilyn 18 mis hir o aros i ddychwelyd i'r stiwdio yn ystod y pandemig, mae CHROMA yn hynod falch ac yn gyffrous iawn i fod o'r diwedd yn rhannu eu halbwm cyntaf, a recordiwyd yn ystod y cyfnod cloi gyda chefnogaeth gan Festival Republic a PRSF.
Wedi’i ddylanwadu gan artistiaid fel Yeah Yeah Yeah’s a The Gossip, mae CHROMA eisoes wedi derbyn cefnogaeth radio gynnar gan BBC Radio 1, BBC 6 Music, Kerrang! Radio, Radio Wales a BBC Radio Cymru a chefnogaeth barhaus gan BBC Introducing.
Mae’r traciau ar eu halbwm gyntaf yn son am brofiad cyfunol y band wrth dyfu i fyny yng Nghymoedd De Cymru, ac yn archwilio’r brofiadau merched ifanc o’r ardal. Gan archwilio ymladd o fewn y mudiad ffeministaidd, gormes hawliau traws yn y DU, trais yn erbyn menywod, a phynciau pwysfawr eraill, maent yn y pen draw yn gwahodd y gwrandäwr i fan diogel.
Maen nhw wedi ymddangos o’r blaen yng Ngŵyl Reading & Leeds, BBC Radio 1 Biggest Weekend, FOCUS Wales a Gŵyl Rhif 6, ynghyd ag ymddangosiadau gwyliau rhyngwladol yn UDA, De Corea, Seland Newydd, ac ar draws Ewrop. Yn fwyaf diweddar yn cefnogi Tokky Horror, maen nhw hefyd wedi chwarae sioeau sydd wedi gwerthu allan ledled y DU gyda fandiau fel IDLES, Peace, The Joy Formidable, VANT a Tigercub.
Maent wedi cael eu hychwanegu at restrau chwarae ar draws Spotify, wedi perfformio ar teledu ar BBC Cymru ac S4C, wedi cael sylw rheolaidd ar gynnwys cyfryngau FA Cymru a Croeso Cymru, ac wedi gweld cefnogaeth yn y wasg gan y Metro, PRS M for Music Magazine, South Wales Argus a Y Selar. Cyn-bandemig, sicrhaodd y tri darn ymddangosiad nodedig yn Maida Vale Studios yn 2019, gan recordio sesiwn fyw ar gyfer BBC Radio Wales a gafodd sylw yn ddiweddarach gan BBC R1 a’i chwarae ar yr awyr.